Ynglŷn â'r Pafiliwn
Amserau Agor
Mae’r Pafiliwn ar agor rhwng 9am a 5pm o Ddydd Llun hyd Ddydd Gwener ac ar benwythnosau a min nosau yn ystod gweithgareddau. Mae’n Oriel ar agor i’r cyhoedd o 10am i 4pm yn ystod yr wythnos ac mae mynediad AM DDIM. Ceir yr amserau agor a phrisiau ar y rhestri unigol.
Sut mae Archebu
Ewch i’n Swyddfa Docynnau yn y Pafiliwn sydd ar agor 9.30am-4.30pm bob dydd ac am o leiaf 1 awr cyn pob perfformiad.
Ffôn: 01978 860 111
Ffacs: 01978 860 046
Post: Pafiliwn Cydwladol Brenhinol, Abbey Road, Llangollen. LL20 8SW
E-bost: enquiries@royal-pavilion.co.uk
Taliad
Gellir talu gydag arian, siec neu gerdyn credyd / debyd. Dylid gwneud sieciau’n daladwy i Gyngor Sir Ddinbych. Yn achos cardiau credyd / debyd dylech roi’ch manylion i gyd yn cynnwys rhif y cerdyn, dyddiad terfyn, rhif cyhoeddiad (cardiau Switch yn unig), yn ogystal â rhif cyswllt yn ystod y dydd a chyfeiriad llawn.
Gostyngiadau - plant yn unig
Dim ad-daliadau
Disgownt i grwpiau
Mynediad
Mae’r Pafiliwn wedi ymrwymo i ddarparu mynediad hawdd i bawb gyda chyfleusterau toiled wedi eu haddasu, unedau newid Mam a’i Phlentyn a mynediad trwy gyfrwng lifft i’r ail lawr. Croesewir c ˆwn tywys. Gellir cael copi o'n holl gyhoeddiadau mewn print bras ar gais.Helpwch ni i’ch helpu chi trwy ddweud wrth staff y swyddfa docynnau am unrhyw anghenion wrth archebu tocynnau.
Cael hyd i’r Pafiliwn
The Royal International Pavilion is situated approximately 500m from Llangollen town centre, with ample on-site parking. Nearest train stations are Chirk and Ruabon.
Cliciwch yma am fap o ble rydym ni yn Llangollen
O’r Amwythig…
Dilyn yr A5 i Langollen. Yn y goleuadau traffig (ger Gwesty’r Smithfield) troi i’r DDE i mewn i ganol dref Llangollen. Yn y gyffordd T ar ddiwedd Pont Llangollen troi i’r CHWITH i’r A542 (tuag at Fwlch yr Oernant). Mae’r fynedfa i’r Pafiliwn tua 0.5 cilometr ar y dde. Ewch i mewn trwy Giatiau Pren, mae’r maes parcio i’r chwith ger adeilad y Pafiliwn.
O Wrecsam / Caer…
Dilyn yr A483, gadael y ffordd osgoi yn Rhiwabon gan fynd ar hyd yr A539 tuag at LANGOLLEN. Wrth gyrraedd Llangollen parhau tuag at Fwlch yr Oernant (peidiwch â throi dros y bont i mewn i Langollen). Mae’r fynedfa i’r Pafiliwn tua 0.5 cilometr ar y dde. Ewch i mewn trwy Giatiau Pren, mae’r maes parcio i’r chwith ger adeilad y Pafiliwn.
O Gorwen…
Dilyn yr A5 i Langollen. Yn y goleuadau traffig (ger Gwesty’r Smithfield) troi i’r CHWITH i mewn i ganol dref Llangollen. Yn y gyffordd T ar ddiwedd Pont Llangollen troi i’r CHWITH i’r A542 (tuag at Fwlch yr Oernant). Mae’r fynedfa i’r Pafiliwn tua 0.5 cilometr ar y dde. Ewch i mewn trwy Giatiau Pren, mae’r maes parcio i’r chwith ger adeilad y Pafiliwn.
O Ruthun (dros Fwlch yr Oernant)…
O Fwlch yr Oernant parhau ar hyd yr A542 tuag at Langollen. Yn fuan ar ôl i’r ffordd fynd dros y gamlas, mae’r fynedfa i’r Pafiliwn ar y CHWITH. Ewch i mewn trwy Giatiau Pren, mae’r maes parcio i’r chwith ger adeilad y Pafiliwn.
Llangollen
Mae yna ddewis gwych o lety yn Llangollen yn amrywio o rai rhatach i’r rhai moethus, mae’r dref yn gartref i amrywiaeth o siopau annibynnol, tai bwyta, caffis a bariau ac mae yna gyflenwad llawn o wasanaethau. Mae yna nifer o atyniadau a gweithgareddau lleol sy’n cydweddu’n llwyr â’r amgylchedd naturiol ysblennydd. Ymwelwch â’r Ganolfan Gwybodaeth Twristiaid yn Y Capel (01978 860 828) neu ewch i’r wefan www.llangollen.org.uk
