Corfforaethol & Masnachol
Cyngerddau
Yn ogystal â thymor mewnol y Pafiliwn sy’n hyrwyddo Cerddoriaeth y Byd a Theatr, mae’r Pafiliwn yn croesawu asiantiaid sydd am gynnal cyngherddau yn Llangollen. Mae’r Pafiliwn yn lleoliad gwych ar gyfer Cyngherddau Haf yn yr Arena (yn eistedd neu heb fod yn eistedd, yn dal o 1,500 - 6000).
Mae’r cyngherddau a gafwyd yma, yn defnyddio’r prif awditoriwm, yn cynnwys ymweliadau gan Grwpiau Roc a Pop megis Catatonia, Super Furry Animals, Bryn Terfel a’r Apêl Tsunami, Goldie lookin Chain a Chyngerdd Apêl Yr Wyddfa ynghyd â’n Cyngerdd Nadolig Blynyddol fythol-boblogaidd – ble mae pob tocyn wedi’i werthu pob tro.
Neu os ydych yn chwilio am leoliad ar gyfer cyngerdd llai neu ddigwyddiad codi arian, mae ein Prif Neuadd ar gael trwy gydol y flwyddyn – yn dal 400 yn eistedd, 200 ar steil cabaret gydag agwedd hyblyg at y bar ac arlwyo, a chefnogaeth dechnegol.
