Corfforaethol & Masnachol

Cynedleddau

Yn hanesyddol mae’r Pafiliwn wedi croesawu amrywiaeth drawiadol o gynadleddau ar gyfer grwpiau cyhoeddus, preifat a gwleidyddol. Mae ein cyfleusterau cynadledda yn ysgafn, yn cael digon o awyr ac yn fodern. Mae’r lleoedd ymwahanu yn cynnwys dec bar gwydr gyda golygfeydd syfrdanol o’r bryniau o gwmpas a’r Oriel, sy’n arddangos amrediad eang o gelfyddyd gain.

Fe rown ni becyn sy’n gweddu’n berffaith i gwrdd â’ch anghenion unigol at ei gilydd am bris cystadleuol ar gyfer ein prif swît gynadledda gyda’i llwyfan a’i seddi hyblyg gyda chefnogaeth sain a goleuo. Gall yr awditoriwm hwn gymryd hyd at 400 o bobl ar steil theatr, 200 ar steil cabaret.

Gallwn drefnu amrywiaeth eang o gefnogaeth dechnegol, yn cynnwys gwasanaethau clyweled a gwasanaethau ysgrifenyddol, i gwrdd â gofynion penodol.

Mae’r gwasanaeth arlwyo hollgynhwysol yn cynnig dewis helaeth o fwydlenni i fodloni pob chwaeth a chyllideb ac unrhyw ofynion deietegol arbennig. Mae’r lle wedi’i drwyddedu a gallwn wneud cais am estyniadau bar a thrwyddedau arbennig fel y bydd angen.

Ar gyfer y digwyddiadau hynny sy’n gofyn am ffilmio, mae’r Pafiliwn yn gyrchfan gyfarwydd i ddarlledwyr ac mae’i adeiladwaith modern yn cynnig nifer o safleoedd camera, a lleoedd stiwdio.

Fe allech gael eich synnu pa mor hawdd yw cyrraedd Llangollen, tref ymwelwyr brydferth sydd wedi’i chyflenwi’n dda â gwestai, gwely a brecwast, tafarndai a bwytai o safon. I’r rheini sydd am ymestyn neu gyfoethogi eu hymweliad gwasanaethir yr ardal gan ddigonedd o atyniadau ymwelwyr, gweithgareddau awyr agored, wedi’u lleoli mewn ardal o harddwch eithriadol, ac sy’n llai nag awr o fwynderau Rhufeinig Caer a rhyfeddodau Parc Cenedlaethol Eryri.

Ewch yn ôl…