Corfforaethol & Masnachol
Pa un a ydych yn gobeithio trefnu cyfarfod, cynhadledd, cyngerdd, noson ffilmiau neu ffair fasnach, mae gennym ni’r cyfleuster ar eich cyfer. Mae croeso bob amser i ddigwyddiadau sydd ar raddfa fwy, yn defnyddio’r Arena a safle’r ŵyl. Gellwch chi ddisgwyl prisiau rhesymol, hyblygrwydd a chefnogaeth ragorol gan ein tîm digwyddiadau ymroddgar. Mae Gwobr Safonau Dosbarth Busnes Aur Bwrdd Croeso Cymru wedi’i dyfarnu i’r Pafiliwn mewn cydnabyddiaeth o’i wasanaethau cyfleusterau cyfarfod rhagorol.
Os oes angen unrhyw fanylion pellach arnoch, cysylltwch â ni ar 01978 860111 neu ebostio enquiries@royal-pavilion.co.uk os gwelwch yn dda.
I gael gwybod mwy am yr hyn y gall y Pafiliwn ei gynnig ichi, dewiswch gategori isod.
