Corfforaethol & Masnachol

Cyfleusterau a Manylebau

Yr Arena

Mae gwasanaeth cynhyrchu perfformiad llawn ar gael. Bydd yn bleser gennym ddarparu cyngor neu gymorth wrth lunio cynllun y seddi, trefnu gwerthiant tocynnau, hysbysebu, hyrwyddo gwerthiant, goruchwylio’r llwyfan a chynllunio’r set. Mae ein staff hyfforddedig yn rhoi cefnogaeth dechnegol a chefnogaeth blaen tŷ ac maen nhw’n falch o’ch helpu chi a’ch cynulleidfa. Mae yma gyfleusterau llwyfannu llawn gyda digonedd o le yn yr ystafelloedd gwisgo i hyd at 300. Mae hyblygrwydd adeiladwaith ein llwyfan yn caniatáu inni addasu’r man perfformio at eich anghenion penodol eich hun hefyd. Gellir trefnu rheolaeth gynhwysfawr ar y goleuadau a’r sain i gwblhau’r pecyn a sicrhau yr enw da sydd gennym am redeg y brif gyrchfan cyflwyno perfformiadau yn yr ardal.

Cliciwch yma i weld y manylebion llawn (4500 o seddau)
Cliciwch yma i weld y manylebion llawn (1500 o seddau)

Y Brif Neuadd

Mae’r Brif Neuadd yn berffaith ar gyfer y digwyddiad llai, boed hwnnw’n lansio cynnyrch, arddangosfa, neu gyngerdd. Mae lle i hyd at 400 o bobl eistedd yn y Neuadd ac mae iddi gyfleusterau goleuo a sain llawn. Mae’r Neuadd hefyd yn cynnwys system daflunio data sgrîn fawr, sy’n berffaith ar gyfer pob cyflwyniad amlgyfryngol, sydd â’r gallu i daflunio ffynonellau Gliniadur a Fideo, y naill a’r llall, mewn lliw llawn.

Cliciwch yma i weld y manylebion llawn

Swît Monsanto

Mae Swît Monsanto yn ystafell ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd neu seminarau i hyd at 100 o bobl, neu efallai yr achlysur neu’r croesawiad arbennig hwnnw. Mae gan yr ystafell gyfleusterau toiled preifat a mynediad at Ddec y Bar, man cymdeithasu cynllun agored unigryw ei ddyluniad, sy’n ei wneud yn ddelfrydol i ddiddanu Pobl Bwysig Iawn neu efallai fel ystafell ymwahanu/gweithdy.

Cliciwch yma i weld y manylebion llawn

Oriel

Gyda lle arddangos 18m wrth 12m rydym yn gallu cymryd arddangosfeydd teithiol bach i ganolig eu maint, ac rydym yn falch o weithredu fel asiantiaid gydag unrhyw werthiannau. Drwy gynnwys yr Oriel yng ngweithgareddau prif ffrwd y Pafiliwn rydym yn annog amrediad amrywiol o ymwelwyr.

Cliciwch yma i weld y manylebion llawn

Ewch yn ôl…