Corfforaethol & Masnachol

Ffeiriau & Gwyliau

Yn gartref i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, mae’r Pafiliwn yn lle adnabyddus a dibynadwy am groesawu amrywiaeth eang o wyliau a ffeiriau trwy gydol y flwyddyn.

Pa un ai’n Ŵyl Falwnau wobrwyol Llangollen, yn Ŵyl Fwyd uchel ei chlod Llangollen, yn Ffair Hen Bethau reolaidd neu’n Ffair Fasnach arbenigol, mae’r Pafiliwn yn safle poblogaidd ar gyfer digwyddiadau teuluol.

Mae trefnwyr yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn fodlon nid yn unig ar y cyfleusterau rhagorol ond hefyd ar y lefel uchel o gefnogaeth a gynigir gan ein tîm ymroddgar.

Gyda hyblygrwydd y tiroedd, awditoria ac Adeilad Craidd, parcio ar y safle, pecynnau arlwyo, cefnogaeth dechnegol a chefnogaeth gynllunio ynghyd â ffyrdd mynediad rhwydd, mae’r Pafiliwn yn haeddu ei enw fel man cyfarfod o’r radd flaenaf.

Ewch yn ôl…