Corfforaethol & Masnachol
Bwlch Arddangos
A ydych chi’n grefftwr neu’n grefftwraig o’r fro? Yn gweithredu ar sail comisiwn yn unig mae gan y Pafiliwn fan adwerthu sydd wedi’i gynllunio’n arbennig i arddangos a marchnata gwaith artistiaid sy’n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Sir Ddinbych a’r ardaloedd o gwmpas.
Rydym yn anelu at annog crefftau lleol ac rydym yn falch o drafod hyrwyddo gwaith yn yr Arddangosfan. Mae’r prosiect yma’n cael ei gefnogi a’i gyllido’n rhannol gan Cadwyn Leader II a Chronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop.
